Mae gan eich cynghorwyr y pŵer i gael gwared ar drefn bleidleisio’r Cyntaf i'r Felin. Ydych chi’n fodlon gofyn iddyn nhw symud i ffordd decach, well o ethol eich cyngor?

Gorsaf Bleidleisio Polling Station

Mae gan gynghorau Cymru system bleidleisio nad yw'n cynrychioli'n gywir sut yr ydym yn pleidleisio, ac nid yw seddi yn Siambr eich Cyngor yn cyfateb i nifer y pleidleisiau y mae pleidiau’n eu derbyn. Sut gallwn ni ddweud wrthyn nhw beth yw ein blaenoriaethau pan nad yw ein pleidleisiau yn gwneud gwahaniaeth?

Mae gan eich cynghorwyr y pŵer i gael gwared ar y Cyntaf i'r Felin a symud i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) - ffordd decach, well ar gyfer dewis ein cynrychiolwyr lleol - sydd wedi'i defnyddio'n llwyddiannus yn yr Alban ers dros ddegawd.

Gofynnwch i'ch cynghorwyr gefnogi'r newid >>
 

Defnyddiwch ein teclyn i ysgrifennu at eich cynghorwyr lleol.

Yn gyntaf, nodwch eich cyfeiriad i ddod o hyd i'w manylion.
 

Nid cynghorau sy'n cael eu hethol yn deg yng Nghymru yw’r unig beth rydyn ni ei eisiau - rydyn ni am i bobl gael dweud eu dweud dros ein democratiaeth gyfan.

Ond mae arnom angen eich cefnogaeth chi i helpu â sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Cliciwch ar 'Ydw' a byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chamau hanfodol y gallwch eu cymryd i sicrhau diwygio ledled y DU.

Wyt ti'n siwr? Ni fyddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y frwydr dros system bleidleisio deg. Os ydych eisoes ar ein rhestr ni chewch eich ychwanegu ddwywaith drwy glicio 'Ie', ond ni chewch eich tanysgrifio drwy glicio 'Na'.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd