Ydych chi’n credu bod pawb yng Nghymru’n cael ethol eu cynghorwyr? Meddyliwch eto. Mae dros 100,000 o bleidleiswyr yng Nghymru’n byw mewn wardiau diwrthwynebiad - sy'n golygu nad oes gan y cyhoedd unrhyw lais.

Election Cancelled

Mae hyn oherwydd bod gan gynghorau Cymru system bleidleisio nad yw'n cynrychioli'n gywir sut yr ydym yn pleidleisio, ac nid yw seddi yn Neuadd y Sir yn cyfateb i nifer y pleidleisiau y mae pleidiau’n eu derbyn. Nid yw ymgeiswyr yn trafferthu sefyll mwyach.

Ym Mhowys enillodd 7 cynghorydd heb i bleidlais gael ei bwrw; yng Ngheredigion enillodd 5 cynghorydd fel hyn, tra yng Ngwynedd cymerodd 28 cynghorydd - 41% o'r cyngor - eu seddi heb unrhyw wrthwynebiad. Nid yw hyn yn arwydd o ddemocratiaeth iach.

Yn 2021 pasiwyd deddf a roddodd y pŵer i ni sicrhau bod ein lleisiau i gyd yn cael eu clywed. Mae gan eich cynghorwyr y pŵer i symud i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV), sy’n ffordd decach a llawer gwell ar gyfer dewis ein cynghorwyr - system sydd wedi cael ei defnyddio yn yr Alban ers dros ddegawd. Lwyddodd hyn i ddatrys y broblem yn yr Alban, a gall wneud yr un peth yma.

Ychwanegwch eich enw i fynnu bod cynghorwyr yn cael eu hethol mewn ffordd y bydd ein lleisiau ni i gyd yn cael eu clywed.
 

 

“Mae angen diwygio etholiadol lleol arnom yng Nghymru”

Ychwanegwch eich enw

Nid dim ond etholiadau lleol gwell rydyn ni eisiau – rydyn ni eisiau i bobl gael dweud eu dweud dros ein democratiaeth gyfan.

Ond mae arnom eich angen i helpu i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Cliciwch ar ‘Ie’ a byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chamau hanfodol y gallwch eu cymryd i ddiwygio ein system wleidyddol.

Wyt ti'n siwr? Ni fyddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y frwydr dros system bleidleisio deg. Os ydych eisoes ar ein rhestr ni chewch eich ychwanegu ddwywaith drwy glicio 'Ie', ond ni chewch eich tanysgrifio drwy glicio 'Na'.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd